celf gymreig i'r byd - celf y byd i gymru ... welsh art for the world - world art for wales

Sefydlwyd Oriel Gorwel gan Bryan Bale a Michael Hannah ym mis Awst 2005. Ein bwriad yw arddangos gwaith aritistiaid Cymreig mewn llefydd diddorol yng Nghymru ac mewn ffeiriau rhyngwladol. Hefyd rydym yn dod â gwaith aritistiaid o ledled y byd i Gymru.

Rhaglen digwyddiadau
Rydym yn cynnal sawl arddangosfa mewn amryw o fannau ar hyd y flwyddyn. (gweler y calendr cyfredol) Fel arfer mae arddangosfa yn para am o leiaf chwech wythnos a gwelir detholiad o'r gwaith ar y wefan.

Fel arfer ym mhob arddangosfa rydym yn canolbwyntio ar un neu ddau o'n hartistiaid gyda gwaith cynorthwyol gan eraill ac ychydig o waith o'r gorffennol o'n harchifau.

Mae Oriel Gorwel hefyd yn cynnal sioe unigol sy'n arddangos gwaith arististiaid, crefftwyr a chynllunwyr gan gynnwys bwyd a diod Cymreig lleol.

Aritistiaid
Mae Oriel Gorwel yn cynrychioli grwp cynyddol o artisitiaid, gyda rhai yn enwau cyfarwydd ac eraill ond yn cychwyn ar eu gyrfa. Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â ni, cysylltwch â ni ar artistiaid@orwelgorwel.com. Ar hyn o bryd, arlunwyr yw'r mwyafrif ohonom ond mae croeso cynnes hefyd i ffotograffwyr, crefftwyr a chynllunwyr.

Lleoliadau
Yn wahanol i orielau celf traddodiadol, nid yw Oriel Gorwel wedi'i leoli mewn un lle arbennig. 'Gwestai' ydym mewn orielau eraill, tai bwyta a lleoliadau diddorol amrywiol. Os ydych â gofal am leoliad ac fe hoffech drafod cynnal digwyddiad Oriel Gorwel gyda ni, cysylltwch â ni ar lleoliadau@orielgorwel.com.

| English| gartref | amdanon ni | calendr | artistiaid | cysylltu â ni |
© Oriel Gorwel 2006