Gofynnodd
yr Athro i Axel ei gynorthwyo gydag adnewyddu prif neuadd
Prifysgol Copenhagen - profiad a fyddai'n werthfawr iddo bellach
ymlaen yn ei yrfa.
Wedyn,
astudiodd am bedair blynedd yn yr Athrofa Gelf Frenhinol yn
Copenhagen, ac o hynny ymlaen roedd ei lwybr yn glir. Teithiodd
i'r Eidal yn 1905; yn 1912 roedd yn yr Almaen gan ddychwelyd
i'r Eidal ac ymweld â Ffrainc yn 1921.
Yn 1909,
arbrofodd Johansen gyda sment lliw yn 'Sonnes Frieze' yn Amgueddfa
Thorvaldsens yn Copenhagen. Yn 1936, datblygodd dechneg a
ddaeth yn sylfaen ar gyfer comisiwn o adnewyddu'r Frieze yn
gyfangwbl, gan orffen y llawr cyntaf cyn ei farwolaeth yn
1938: VaedderkØrselsfrise a'r ddau balmwydd.
Paentiodd
ystod eang o destunau, yn enwedig ei gariad at y môr
a llongau. Golygfeydd o Copenhagen yw mwyafrif ei waith, yn
enwedig yr harbwr a'r môr. Roedd hefyd yn arlunydd portreadau
heb ei ail.
Yn 1929,
daeth yn 'U.C.' sef y cyfwerth i'r 'RA' Prydeinig.
Mae gan
deulu brenhinol Denmarc gasgliad eang o'i waith.
Cyswlltt:
ph@orielgorwel.com
Gweler detholiad o waith Axel Johansen ar oriel
arlein
|