celf gymreig i'r byd - celf y byd i gymru ... welsh art for the world - world art for wales

Oriel Gorwel - Celf Cymreig ar gyfer Busnes

Mae Oriel Gorwel yn cynnig gwasanaeth ymgynghori celf a chynllunio ar gyfer busnesau sydd am addurno llefydd cyhoeddus a phreifat gyda gwaith celf gwreiddiol neu brintiadau o safon uchel.

Pwy sy'n gweithio gyda ni?
Tai bwyta, datblygwyr tai, cynllunwyr mewnol, awdurdodau lleol, trefnwyr digwyddiadau - unrhyw un sydd am wella llefydd cyhoeddus a derbynfeydd gyda gwaith celf chwaethus. Rydym yn arbenigo mewn gwaith artistiaid lleol y mae eu gwaith yn adlewyrchu prydferthwch a chymeriad de a gorllewin Cymru.

Beth yr ydym yn ei wneud?
Mae Bryan Bale o Oriel Gorwel yn ymgynghorydd gweledol profiadol gyda gyrfa hir mewn cynnyrch ac arddangosfeydd gweledol rhyngwladol Mae llygad arbenigol a theimlad Bryan am liw a ffurf yn ei alluogi i wneud asesiad cyflym a chywir o'r man arddangos, boed yn gaffe bach, ystafell gorfforaethol neu fflat arddangos ar gyfer pobl proffesiynol ifanc. Gan weithio gyda databas Oriel Gorwel o aritistiaid lleol a rhyngwladol, bydd Bryan yn cynnig awgrymiadau am y math o waith mwyaf addas, yn ogystal â'r math o olau, ffram a materion arddangos eraill.

Gallwn ddarparu gwaith celf neu brintiadau gwreiddiol yn ôl eich anghenion a'ch cyllideb. Gellir prynu'r gwaith celf, neu yn achos digwyddiadau, arddangosfeydd, sesiynau ffoto ac ati, byddwn yn hapus i'w llogi i chi.

Mae ein hartistiad yn cynnwys ffotograffwyr a phaentwyr dyfrlliw, olew, acrilig a phastel. Rydym yn cynnig ystod eang o arddulliau o'r tirlun traddodiadol i'r haniaethol a'r naïf. Mae'r mwyafrif o'n hartistiaid yn hapus i ymgymryd â gwaith comisiwn ac mae sawl un yn fodlon paentio darluniau o bobl.

Sut mae hyn yn gweithio?
Yn syml, ffoniwch ni ar 07929 869 757 neu ehebwch ar busnes@orielgorwel.com. Byddwn yn hapus i drafod eich anghenion a threfnu ymgynghoriad heb ymrwymiad. Hyd yn oed os na wyddoch y nesaf at ddim am fyd celf, gallwch ymddiried ynom i siarad yn ddiflewyn ar dafod ac i'ch cynorthwyo i ddod o hyd i waith at eich dant sy'n adlewyrchu'n hael eich mudiad a'i werthoedd.

| English | gartref | amdanon ni | calendr | artistiaid | cysylltu â ni |
© Oriel Gorwel 2006