|
Gillian
Morgan
oriel
arlein | prynu
|
Mae Gillian
yn byw ac yn gweithio yn Hwlffordd. Ar ôl iddi ymddeol
yn gynnar fel prifathrawes, trodd Gillian at baentio - un
o'i diddordebau pennaf.
"Rwyn hoffi canfasau eang, gan weithio fel arfer mewn
acrilig, sy'n gallu creu effeithiau sialciog neu liwiau dwfn
sy'n debyg i'r effeithiau o weithio gydag olew.
"Mae'r awyr, y môr a'r ffordd agored yn apelio'n
fawr ataf, ac rwyn chwilio am y lle unig, yr ymyl gwyllt,
ble mae lliwiau yn gwaedu, yn anadlu ac yn ffrwydro.
|

|

Gillian
Morgan a'i 'Cychod-Little Boats'
|
"Emosiwn
pur yw paentio, sy'n codi uwchben y canfas, y ffram a'r cyfrwng
i fod yn eiliad o adnabod, grym bywyd fel cariad neu farddoniaeth
neu batrymau'r heulwen yn y dydd."
Cyswllt:
gillianmorgan@orielgorwel.com
Gweler detholiad o waith Gillian ar ei oriel
arlein
|