Crochenwaith Gwili

oriel arlein | prynu gwaith

Mae Crochenwaith Gwili, ychydig filltiroedd o Gaerfyrddin, yn cynhyrchu priddwaith seramig o waith llaw wedi'i baentio â llaw i gynlluniau traddodiadol a chyfoes.

Ers dros chwarter canrif, bu Gwili yn creu crochenwaith i'r cartref gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ffurfiau a 30 cynllun. O botiau i blatiau i jygiau a gwaelodion lamp, mae i bob darn deimlad unigryw o fod yn waith celf am iddo gael ei wneud â llaw.

 

   

Mae gan bob cyfres ei chynllun unigol nodweddiadol mewn lliwiau sy'n adlewyrchu traddodiad artisitig sy'n denu casglwyr a defnyddwyr cartref fel ei gilydd. O gennin bedr a chalonnau i siapiau haniaethol a chregyn y môr, mae gan Gwili rywbeth unigryw a rhesymol ei bris at ddant pawb.

Mae Oriel Gorwel yn cadw gwaith Crochenwaith Gwili - gallwch weld enghreifftiau o hyn arlein yn Lounge Gallery, Caerfyrddin.

Cyswllt: gwili@orielgorwel.com

| English | gartref | amdanon ni | calendr | artistiaid | cysylltu â ni |
 
© Oriel Gorwel 2006