 |

|
Helen
Elliott
oriel
arlein |
prynu gwaith |
"Rwyf
wrth fy modd yn paentio tai a phentrefi, ambell dro gyda chymeriadau
ac yn aml iawn, fy nghi, Minnie. Mae fy narluniau bob tro
yn olygfeydd lleol o fewn 50 milltir i'm cartref yn Sir Gaerfyrddin,
ac er fy mod yn addasu, rwyn ofalus i gynnwys manylion cywir
e.e. y math o do, sawl simdde, marciau'r ffordd ac ati. Oherwydd
hyn, mae pobl yn dweud yn aml 'Rwyn adnabod y lle yna…'
ond mae gan fod fy arddull yn addasu ei golwg ohonno, yn y
pendraw, clywaf '… ie, y lle yna yw e'.
"Dyma'r
rhan orau o arddangos fy gwaith - rwyn gwybod fy mod wedi
cyflawni rhesymau y rhan fwyf o arlunwyr dros baentio, sef
cyfathrebu ar lefel emosiynol y teimladau a gysylltir â
lle neu flodau neu berson."
|
"Nid
wedi derbyn hyfforddiant ffurfiol, ond mewn dosbarthiadau
nos gydag athro rhagorol - Roger Young - fe'm hanogwyd i ddatblygu
fy arddull 'diniwed' i fynegi fy mwriadau. Yn yr ysgol, nid
oedd hawl gennyf i gymryd celf am nad oeddwn yn 'paentio'n
iawn'. Bendith oedd hynny mewn gwirionedd wrth i fi sylweddoli
y gellir fod wedi addysgu'r weledigaeth 'allan' ohonof ac
ni fyddwn wedi mwynhau paentio.
"Hwyl a sbri yw fy ngwaith - rwyn hapus wrth baentio
gan obeithio bod pobl yn hapus wrth edrych arnynt. Mae gormod
o boen a straen yn y byd, gyda llawer ohonno'n deillio o 'feddwl
gormod', yn fy marn i. I fwynhau fy narluniau, dim ond edrych
a theimlo sydd ei angen - does dim angen dehongli …
onibai bod y gwyliwr eisiau gwneud hynny, wrth gwrs.
"Bum yn paentio'n broffesiynol ers tua 2000, ac rwyn
hapus - ac yn synnu - bod mwy a mwy o alw am fy ngwaith. Ar
hyn o bryd, mae gennyf ddarluniau yng Nghymru, gweddill gwledydd
Prydain, Awstralia, America a'r Almaen, a gellir gweld fy
ngwaith mewn orielau yn lleol ac yng Nghaerdydd."
Cyswllt:
helenelliott@orielgorwel.com
Gweler detholiad o waith Helen yn ei oriel
arlein
Gwefan
Helen ei hun yw www.helenelliott.net
|