Marianne Thune Haycock

oriel arlein | prynu |

Ganwyd Marianne Thune Haycock yn Copenhagen, Denmarc, ond treuliodd ei phlentyndod yn y wlad o gwmpas Svendborg, ble roedd ei thad yn feddyg.

Ar ôl priodi swyddog ym Myddin Prydain, teithiodd yn bell, gan ddechrau paentio ym Maleisia. Astudiodd yno gyda'r arlunydd portreadau Mohamed Hussein.

 

Marianne Thune Haycock

   

Dychwelodd i Ddenmarc, gan dreulio'r pedair blynedd ar ddeg nesaf yno yn astudio yn Athrofa Gelf Odense.

Cafodd sawl arddangosfa lwyddiannus yn ei stiwdio ei hun ac yn lleol o gwmpas Svendborg.

Symudodd i Loegr yn 1981, gan astudio yng ngoleg addysg uwch swydd Warwick, ble yr ennillodd ddiploma, wedyn uwch-ddiploma, yn y Celfyddydau Cain.

Yn 1987, dychwelodd Marianne i'r Gymru yr ymserchodd ynddi yn 1952 i baentio'r prydferthwch mae'n ei weld yma. O'i stwidio ger ei thy, nae'n gallu ymlacio a phaentio o'i chof frasluniau a ffotograffau. Er i'w harddull newid dros y blynyddoedd mae'n bosib dilyn ei chariad at natur a dynolryw.

"Byd natur o'm cwmpas yw fy ffynonellau a'm hysbrydoliaeth. Mae bryniau, mynyddoedd, moroedd ac afonydd Cymru yn brydferthwch di-bendraw. Mae gennym bopeth yma - o ddiwrnodydd stormus ar y traeth i lonyddwch prydferth. Ac mae'r bobl a'r anifeiliaid i gyd yn rhan o'r un byd natur. Ble bynnach yr ewch, gallwch flasu'r tywydd ac mae'n wych i drosglwyddo hynny i bapur neu ganfas.

Mae Marianne hefyd yn hoff iawn o dynnu lluniau o bobl, ac mae'n derbyn comisiynau. Gwerthwyd ei gwaith yn Denmarc, Sweden, Lloegr, Cymru, Maleisia, Sri Lanca, yr Almaen ac America.

Cyswllt: mariannethunehaycock@orielgorwel.com
Gweler detholiad o waith Marianne ar ei oriel arlein

Gwefan Marianne ei hun yw oriel arlein.

| English | gartref | amdanon ni | calendr | artistiaid | cysylltu â ni |
 
© Oriel Gorwel 2006