|
Mark
Cox
oriel
arlein | prynu
Wedi ei
leoli yng Nghaerfyrddin, dysgodd Mark ei hun sut i baentio
gyda dyfrlliw ac erbyn hyn mae'n defnyddio olew ac acrilig
yn bennaf. Mae Mark yn arlunydd eclectig sy'n gweithio am
amrywiaeth o destunau o'r haniaethol pur i dirluniau a bywyd
llonydd. Mae gwaith Mark wedi'i arddangos yng nghanol a de
Cymru, Bryste ac wedi'i anfon mor bell ag Awstralia a'r Unol
Daleithiau.
Er gwaethaf
iddo baentio ers blynyddoedd, daeth Mark o hyd i'r amser i
astudio ar gyfer gradd yn y celfyddydau cain. "Er fy
mod yn hunan-ddysgedig, dysgais bod astudio yn ehangu fy nealltwriaeth
o gelfyddyd gan ehangu fy nhechneg. Mae diddordeb arbennig
gennyf mewn ffurf a lliw o fewn darlun. Nid yw hynny'n golygu
bod pob un o'm darluniau yn esoterig ond fel arfer, mae elfen
ymadroddol ynddynt.
|