|
Michael
Davies
oriel
arlein | prynu
gwaith |
Mae Michael
yn paentio gydag angerdd mewn acrilig ac olew, gan ddefnyddio
lliwiau bywiog ac emosiynol mewn arddull balch ac uniongyrchol.
Mae diddordeb arbennig ganddo yn yr effaith sydd gan un lliw
ar un arall, ac mae'n gwneud hyn i'r eithaf trwy ddefnyddio
haenau amrywiol o liwiau, ambell dro mewn ardaloedd o liwiau
cyfan a sglein lled-dryloyw, gan greu yn raddol ddarluniau
gydag effeithiau argraffiadol, lled-haniaethol a haniaethol
pur. Mae diddordeb mawr ganddo yn effaith yr elfennau ar dirwedd,
y môr, yr awyr ynghyd â'i ysbrydiaeth Cristnogol.
Ei adwaith emosiynol a'i ddychymyg creadigol sy'n pennu awyrgylch
a graddfa haniaethiad ei luniau.
|

|

|
Mae
arddull Michael yn arddangos nwyd a brwdfrydedd sy'n codi
uwchben y deunydd: awyrgylcheddau wedi'u creu gan olau, lliw,
gwead a symud, wedi'u cyfuno ag elfennau naturiol ac weithiau
sumbolaeth ysbrydol i godi cwestiynau personol heriol, gan
adlewrychu ei deimladau, meddyliau ac emosiynau at bethau
y tu hwnt i'r gweladwy amlwg.
Dros y
blynyddoedd, ysbrydolwyd Michael gan ystod eang o arlunwyr
o'r dadeni i'r cyfoes.
Mae Michael
yn byw ar ymyl Bannau Brycheinig yn Sir Gaerfyrddin, gan weithio
fel arlunydd proffesiynol ers dros chwarter canrif. Fel dyn
ifanc, astudiodd celf ac mae ganddo ddiploma mewn celf a chynllunio.
Ond ar ôl treulio dros trideg mlynedd o deithio'r byd
yn paentio, cerflunio ac astudio, mae'n well ganddo ystyried
ei hun yn 'hunan-addysgiedig." Yn ystod y cyfnod hwn,
gweithiodd Michael fel cerflunydd pren hefyd. Mae'n enwog
yn rhyngwladol, gan arddangos ei waith yng ngwledydd Prydain,
rhannau o Ewrop a ledled y byd. Cafodd ddau gomisiwn arbennig:
un ar gyfer y Frenhines a'r llall ar gyfer y Fam Frenhines.
|