|
Sonia
Williams
oriel
arlein | prynu
gwaith |
"Ar
ôl mwynhau trafod defnydd pan yn blentyn, ges i gyfle
i ddefnyddio deunydd eraill - clai, paent ac adeiladwaith
- wrth astudio Celf, Crefft a Chynllunio yng Ngholeg y Drindod,
Caerfyrddin. Graddiais yn 2000.
"Seilir
fy ngwaith ar nifer o themau. Gan ddefnyddio blodau a thirwedd
gorllewin Cymru fel sbardun, rwyn mwynhau defnyddio paent
ac ati i arddangos fy nghariad at liwiau ac arwynebau.
"Adlewyrchir
ffurf rhythmegol blodyn gan y corff benywaidd, gyda'r siapau
organig hyn yn adlewrychu'r enaid, anadl ein cyrff a'r gwawl
sydd o'n cwmpas.
"Mae
fy ngwaith cyfredol - 'Celebration' a 'Coloured Symbols' -
yn cynrychioli ystyr symbolaidd ffurf a lliw, gan groesi ffiniau
diwylliant Celtaidd ac Asia. Mae'n dathlu cylch natur di-bendraw.
Mae'r gyfres fach 'Little Treasures' yn ymchwilio i'r syniad
bod popeth sydd wedi bod yn rhan ohonom heddiw, bod lliw a
gwead yn llenwi bob delwedd gyda'r gwirionedd cynhenid am
bwy yr ydym.
"Wrth
i fi ddatblygu fy sgiliau paentio, rwyn mwynhau defnyddio
amrywiaeth o gyfryngau: defnydd, gleiniau, gwer a metel. Rwyn
arbrofol ac yn mwynhau 'chwarae' gyda chyfryngau newydd."
Dangoswyd gwaith Sonia yn …
Oriel Kooywood, Caerdydd
Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe
'Art Matters', Dinbych-y-Pysgod
'Lickleys Fine Gifts' a'r 'Loft Gallery', Caerfyrddin
…
ac ar hyn o bryd mae arddangosfa o'i gwaith yn siop 'Custom
House & Gallery' Aberteifi.
Mae
gwesty Gwenllian Court, Cydweli, wedi prynu gwaith Sonia,
mae hi wedi ymgymryd â sawl comisiwn preifat ynghyd
â chynnal tair ysgol breswyl i arlunwyr yn ysgolion
Rhydaman a Llanelli.
|