Man
gan ei gwaith arddull unigryw a deniadol sy'n boblogaidd gyda
chasglwyr lleol yn ogystal â Chymru America sy'n hoffi'r
delweddau o 'hiraeth' am Gymru a welir yn ei gwaith.
"Arlunydd
'hunan-ddysgedig' ydwyf. Ers talwm, rwyf wedi arlunio a bod
a diddordeb mewn creu lluniau, ond fe'm hanogwyd yn yr ysgol
a thu hwnt i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth. Dilynais gwrs
athro yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ond roedd diddordeb
parhaol gennyf mewn arlunio - ymunais â grwpiau celf
lleol ac fe es at arlunwyr proffesiynol yma ac yn Lloegr am
hyfforddiant ac arweiniad, yn enwedig ym maes dyfrlliw.
"Bellach,
bum yn paentio'n broffesiynol ers tua deng mlynedd, ac mae
gennyf fy oriel fy hun yn Llandeilo , The
Bridge Gallery. Ble rwyn arddangos fy ngwaith fy hun ynghyd
â gwaith arlunwyr eraill sy'n byw a gweithio yn yr ardal.
Rwyf hefyd yn athrawes gymunedol gyda Choleg y Drindod, ac
yn fy oriel, rwyn cynnal cyrsiau arlunio a thynnu llun."
Cyswllt:
wendypowelljones@orielgorwel.com
Gweler detholiad o waith Wendy ar ei oriel arlein
|