Oriel 'The Lounge' yn y Waverley

23 Heol Awst, Caerfyrddin SA31 3AL
01267 236521 [map o'r stryd]

Canolfan holistig Caerfyrddin yw'r Waverley - siop bwyd iach organig, ty bwyta a chaffe llysieuol, clinig iechyd amgen, ynghyd ag oriel 'The Lounge' sy'n arddangos celf lleol a rhyngwladol.

Mae gan yr oriel wagle modern bendigedig a delfrydol i arddangos darluniau a ffotograffau. Ymholiadau: lounge@orielgorwel.com

Mae siop y Waverley ar agor o ddydd Llun hyd ddydd Sadwrn o 9 y bore hyd 5 y prynhawn, gan werthu ystod eang o gynnyrch bwyd iach, ffrwythau a llysiau organig, saladau a brechdanau. Mae'r ty bwyta a chaffe ar agor o 10 y bore hyd 3 y prynhawn ar gyfer cinio llysieuol, te, coffi a theisennau cartref.

Mae clinig therapi amgen y Waverley yn cynnig aciwbigo, moddion o Tseina, profi alergedd, therapi swyngwsg, osteopatheg a therapi prydferthwch. Hefyd, cynhelir sesiynau ioga rheolaidd.

 

 

 

 
| gartref | amdanon ni | calendr | artistiaid | cysylltu â ni |
© Oriel Gorwel 2005